I am aware that fraudsters have spoofed National Assembly for Wales telephone numbers, and have been calling people while pretending to be from HM Revenue and Customs (HMRC). Please see below the advice I have received from HMRCs on this matter: Dear Ms Evans, We are aware that fraudsters have been calling people while pretending to be from HM Revenue and Customs (HMRC), and spoofing National Assembly for Wales numbers. We would be grateful, therefore, if you would share our advice below with your colleagues and constituents. HMRC’s advice:
New controls deployed by HMRC mean fraudsters can no longer spoof most of the department’s helpline numbers. Scammers mimic legitimate HMRC helpline numbers (often beginning with 0300) to dupe taxpayers and steal their money and personal information. These new controls may mean scammers are looking for other numbers to mimic in order to make their calls seem genuine. During the last 10 months HMRC has also asked for more than 1,050 numbers being used by scammers to be removed from the network. Yours sincerely, HMRC Communications Rydym yn ymwybodol bod twyllwyr, sy’n honni eu bod yn cynrychioli Cyllid a Thollau EM (CThEM), wedi bod yn ffonio pobl sy’n gweithio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Byddem yn ddiolchgar, felly, pe byddai modd i chi rannu’r cyngor isod gyda’ch cydweithwyr a’ch etholwyr. Cyngor CThEM:
Mae mesurau newydd a gyflwynwyd gan CThEM yn golygu nad yw’n bosibl mwyach i dwyllwyr ffugio’r rhan fwyaf o rifau ffôn llinellau cymorth yr adran. Mae sgamwyr yn ffugio rhifau ffôn llinellau cymorth dilys CThEM (sy’n aml yn dechrau gyda 0300) i dwyllo trethdalwyr a dwyn eu harian a’u gwybodaeth bersonol. Gallai’r mesurau newydd hyn olygu bod sgamwyr yn chwilio am rifau eraill i’w ffugio er mwyn rhoi’r argraff bod eu galwadau’n ddilys. Yn ystod y 10 mis diwethaf, mae CThEM hefyd wedi gofyn am dynnu mwy na 1,050 o rifau a ddefnyddir gan sgamwyr o’r rhwydwaith. Yn gywir, Gwasanaeth Cyfathrebu CThEM Comments are closed.
|
|